Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (31)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Llywodraethu Addysg Bellach (30 munud) |
5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Gorchymyn i ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (30 munud) |
6. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011 (15 munud) NDM4855 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r
Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011 yn cael
ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011.
|
7. Dadl ar Fanteision Rhannu Gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bersonol (60 munud) NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref. Dogfen
Ategol Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.
|
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) (15 munud) NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dogfennau
Ategol Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Ychwanegwch fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011. I weld copi o’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) ewch i: |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2011